Mae Redstart yn gweithredu trwy Gwmni Cyd-fenter sydd â Phrif Fwrdd o saith Cyfarwyddwr, a gefnogir gan Fwrdd Gweithrediadau. Mae gan y Prif Fwrdd a’r Bwrdd Gweithrediadau gyfuniad o aelodau tîm o Awdurdodau Unedol a WSP UK.
Mae Bwrdd Redstart yn delio’n uniongyrchol â Chynghorau’r Awdurdodau Unedol trwy eu Strwythurau Cabinet ac Uwch Dimau Rheoli – a thrwy gynrychiolaeth Prif Weithredwyr ac Arweinwyr y Cynghorau ar Brif Fwrdd y gyd-fenter. Mae Cyfarwyddwyr WSP UK yn cysylltu ag adrannau gwasanaeth ehangach WSP UK.
Mae tîm cyflwyno Redstart, sy’n rhan o grŵp o 160 o bobl, yn gweithio ym mhencadlys WSP UK yn St David’s House yn Llaneirwg, Caerdydd – gyda swyddfa lloeren yn Nhrefforest. Mae model gweithredu Redstart yn delio’n uniongyrchol â’r Awdurdodau Unedol partner ac mae’n cynnig gwasanaethau trwy dimau ar y cyd lle y bo’n briodol. Mae tîm Redstart hefyd yn cysylltu â thimau ehangach WSP UK Group a chynghreiriau strategol eraill, gan gynnwys cwmnïau cyd-fenter awdurdodau lleol tebyg yn y DU.
Mae’r Prif Fwrdd yn canolbwyntio ar:
- gyflawni Cynllun Busnes y Cwmni a’i Ddeilliannau
- datblygu achos busnes i gyflawni deilliannau
- perfformiad ac ansawdd gwasanaethau yn gyffredinol.
Mae’r Bwrdd Gweithrediadau yn canolbwyntio ar:
- ddarparu gwasanaethau gwerth am arian, o ansawdd uchel
- perfformiad wrth gyflawni prosiectau
- boddhad cleientiaid
- datblygu gwasanaethau newydd neu estynedig
- gweithredu cynlluniau gwella.
Mae ein systemau Tîm Rheoli Gwasanaeth Cleientiaid a Rheolwr Datblygu Busnes yn sicrhau bod gan Redstart y sianelu cyfathrebu gorau oll. Hefyd, maent yn sicrhau bod gennym brosesau a chysylltiadau effeithiol er mwyn i’n busnes dyfu a ffynnu.